As a result of Storm Bert, hundreds of homes and business were flooded once again across the region. Many constituents have already been in touch to seek support, and I have been raising what now needs to done to provide support in the Senedd and directly with Welsh Government as well as providing practical help. If you were affected, I would be grateful if you could complete this survey. If you weren’t affected, but know someone that was, please share with them too. After the devastating flooding of 2020, I campaigned for an independent inquiry and greater support for those at risk of flooding. I have made this one of my priorities in the Senedd, and through the Cooperation Agreement, Plaid Cymru secured funding for flood prevention measures. But more needs to be done by the Welsh Labour Government, and urgently. |
O ganlyniad i Storm Bert, dioddefodd cannoedd o gartrefi a busnesau lifogydd unwaith eto ledled y rhanbarth. Mae nifer o etholwyr eisoes wedi cysylltu i ofyn am gymorth, ac rwyf wedi bod yn codi’r hyn sydd angen ei wneud yn awr i ddarparu cymorth yn y Senedd ac yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â darparu cymorth ymarferol. Os cawsoch eich effeithio, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg hwn. Os na chawsoch eich effeithio, ond yn adnabod rhywun a oedd, rhannwch gyda nhw hefyd os gwelwch yn dda. Ar ôl llifogydd dinistriol 2020, bûm yn ymgyrchu dros ymchwiliad annibynnol a mwy o gefnogaeth i’r rhai sydd mewn perygl o lifogydd. Rwyf wedi gwneud hyn yn un o’m blaenoriaethau yn y Senedd, a thrwy’r Cytundeb Cydweithio, fe wnaeth Plaid Cymru sicrhau cyllid ar gyfer mesurau atal llifogydd. Ond mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru wneud mwy, ac ar fyrder. |